Wythnos yn ardal Ullapool 18-25 Chwefror
Llun gan Alun Hughes
Cafwyd tywydd hynod o braf yn yr Alban yn ystod pythefnos gyntaf mis Chwefror gyda’r haul yn tywynnu a’r awyr yn las. Yn anffodus, erbyn y drydedd wythnos roedd pethau wedi troi a gwynt, glaw a chymylau am y rhan fwyaf o’r amser oedd yn wynebu’r criw fentrodd i’r Alban eleni.
Roedd un cysur; llety braf a chynnes efo digon o le i ymlacio ym mythynnod Leac Mailm ar lannau Loch Broom, rhyw dair milltir o dref Ullapool a’i dewis da o lefydd bwyta. Diolch yn fawr iawn i Maldwyn am ei drefniadau trylwyr arferol.
Ar y Sul cyntaf, 19 Chwefror, penderfynodd pawb ei throi hi am fynyddoedd Fannaich a pharcio ar ochr ffordd yr A832 ger Loch a’Bhraoin. Aeth chwech (Gareth Rynys, Gareth Everett, Dylan Huw, Marion Hughes, Mark Williams a Huw Brassington) am Meall a’Chrasgaidh, Sgurr nan Clach Geala (1093 m – yr uchaf o gopaon y dydd) a Sgurr nan Each. Dau gopa mwyaf gorllewinol y Fannaich oedd nod y gweddill (Eirwen Williams ac Alun Fachwen, Elen Huws, Alun Caergybi, Iolo Roberts, Chris Humphreys, John Grisdale, George Jones, Maldwyn Roberts, Eryl Owain, Gerallt Owain a Raymond Wheldon-Roberts). Dringwyd llethr serth iawn Sron Leitir Fhearna (os mai trwyn y llethr uffernol yw’r ystyr, yna byddai’n gwbl addas!) ac ymlaen ar hyd y gefnen tuag at Toman Coinich ac i’r cwmwl i ganfod llwybr bach hwylus i’r bwlch rhyngddo â’r Munro cyntaf, A’ Chailleach (yr Hen Wraig). Yn ôl wedyn dros Toman Coinich ac ymlaen i gopa Sgurr Breac, 999 m, yr uchaf o’r ddau Munro o ddwy fetr. Cafwyd ambell ysbaid glir i weld Loch Fannaich i’r de a’r cwm hir yn ôl tua’r ceir i’r gogledd wrth ddisgyn tua’r bwlch ym mhen cwm Allt Breabaig. Tra’n oedi yno am baned, gwelwyd y chwech arall yn disgyn y llethrau yr ochr draw a phawb wedyn yn cyd-gerdded yn ôl y 7 km hir i’r man cychwyn.
Ar y dydd Llun,dychwelodd Marion a Dylan i fynyddoedd Fannaich i ddringo A’ Chailleach a Sgurr Breac a rhoddodd Gerallt gynnig ar lwybr beicio mynydd arfordir-i-arfordir Ullapool i Drochaid Bhanna (Bonar Bridge) ac yn ôl ond yn gorfod troi’n ôl hanner ffordd oherwydd afon wedi gorlifo. Ond Ben Wyvis (1046 m) oedd nod y rhan fwyaf. Wedi parcio ger Garbat, dilynwyd llwybr drwy’r coed ar hyd Allt a’ Bheallaich Mhoir, ac er bod trwyn An Cabar yn edrych yn hynod o serth, doedd ei ddringo ddim cynddrwg â’r disgwyl gan fod llwybr arbennig o dda yn igam-ogamu ei ffordd i fyny. Er gwaethaf gwynt cryf iawn, a’r cwmwl o’n hamgylch, cafwyd dwy gilometr a chwarter o gerdded eithaf rhwydd ar hyd y gefnen i’r copa. Yn hytrach na dychwelyd yr un ffordd i ddannedd y gwynt, penderfynwyd dal ati tua’r gogledd i gopa Tom a’ Choinich a throi lawr yr ysgwydd oddi yno i gwm Allt a’ Garbh Bhaid dros dirwedd corsiog a di-lwybr blinderus i ganfod bwlch yn y goedwig a llwybr yn ôl at y ceir. Ar y ffordd lawr, cododd y cymylau inni fedru gweld y copa’n glir ac i ddychmygu’r golygfeydd oddi yno a gollwyd!
Teithiwyd tipyn ymhellach yn y ceir ar ddydd Mawrth i bentref Achnasheen, gan gychwyn cerdded am Fionn Bheinn toc wedi 9.00, gan ei bod yn addo tywydd gwlypach yn nes ymlaen yn y dydd. Penderfynodd Huw a Gerallt redeg, a chwblhau’r daith i fyny ac i lawr mewn tua awr ac ugain munud. Cafodd ambell un ddiwrnod i ffwrdd ac aeth Marion a Dylan am Ben Wyvis, gan fod tic ganddynt eisoes ar gyfer Fionn Bheinn (gweler adroddiad 2015!). Ond gwelwyd y rhan fwyaf yn dringo’n serth ar lwybr mwdlyd gydag ymyl nant Allt Achadh na Sine i mewn i’r gwynt a’r glaw. Cafwyd paned sydyn ger cronfa fechan cynllun trydan dŵr a sylweddoli bod ffordd gerrig hwylus dros ben y gallem fod wedi ei dilyn – ac a ddefnyddiwyd ar y ffordd i lawr. Wedi hynny, roedd yn fater o ddilyn y cwmpawd yn union i’r copa a throi ar ein sawdl gan nad oedd dim i’w weld. Diwrnod byr, a phawb yn ôl yn y llety erbyn tua 2.00 o’r gloch.
Bu peth gwahanu ar y dydd Mercher, gyda galwadau gwaith yn denu Mark tuag adref a phriodas deuluol yn denu Gerallt ac Eryl yn ôl – ddiwrnod yn gynt na’u bwriad oherwydd rhagolygon tywydd gwael iawn, yn sgil Storm Doris, ar gyfer drannoeth. Unwaith eto aeth y rhan fwyaf gyda’i gilydd tua Ben Klibreck, ac er gwynt cryf iawn am rannau o’r daith, cafwyd diwrnod arbennig ar yr ail Munro agosaf i’r gogledd a mwynhawyd dau ymweliad â’r Crask Inn a chroeso arbennig er fod y lle, yn swyddogol, wedi cau!
Ddydd Iau, aeth y criw ymhellach fyth yn y gobaith (ymddiheuriadau am y gair mwys!) am dywydd gwell i ddringo’r mwyaf gogleddol o’r Munros, Ben Hope. Ac ni chawsant eu siomi; tra’r oedd eira trwm yn taro deheudir yr Alban a gwyntoedd cryfion yn taro Cymru a Lloegr, cawsant hwy fwynhau tywydd gorau’r wythos i gyrraedd y copa diarffordd hwn sy’n cynnig golygfeydd gwych dros diroedd eang ac anghyfannedd.
Gyda mwy yn troi am adref, ar ddydd Gwener aeth criw o bedwar, Dylan, Marion, Gareth Everett a Gareth Rynys am Seana Bhraigh, mynydd anghysbell iawn sydd ar restr fer y Munros anoddaf eu cyrraedd. Teithiwyd tua’r gogledd yn y ceir i Drochaid Oicel (Oykel Bridge) ac yna beicio ddeng milltir ar hyd cwm hir Strath Mulzie, gyda gorchudd o eira newydd yn ei gwneud yn anodd wrth ddynesu at y mynydd. Gadawyd y beiciau cyn cyrraed Loch a’ Choire Mhoir i esgyn ysgwydd orllewinol Seana Bhraigh drwy’r cwmwl a’r niwl. Tua’r gogledd hefyd yr aeth Iolo, Elen, Eirwen, Huw a Chris i ddringo dau gopa agos at ei gilydd, Conival a Ben More Assynt, ond dau gopa digon heriol, yn arbennig ar ddiwedd yr wythnos flinedig, a chael diwrnod i’w gofio yn cerdded ar eira ac ar flociau cwartsit.
Er gwaethaf ambell i ben-glin yn cwyno a’r diffyg eira a diffyg golygfeydd, cafwyd wythnos lwyddiannus arall o wneud y gorau o’r gwaethaf. A Marion sy’n cael y wobr y tro yma am y nifer fwyaf o Funros newydd – naw tic iddi hi!
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Alun hughes, Eirwen Williams, Elen Huws a Gareth Roberts (ar Ben Hope) ar Fflickr